Mae Cymrugyfan yn rwydwaith o unigolion, eglwysi a sefydliadau efengylaidd sy'n cydweithredu er mwyn plannu a chryfhau eglwysi ar draws Cymru.
Mae Cymrugyfan yn gweithio drwy Cant i Gymru i weld eglwysi’n cael eu sefydlu, yn arbennig lle nad oes eglwys efengylaidd yn bodoli, a lle mae angen i eglwysi gael eu hatgyfnerthu yn eu heffeithiolrwydd.
Mae Cymrugyfan hefyd yn hyfforddi a mentora grwp o Arweinwyr Cristnogol arloesol ar gyfer Cymru drwy Brosiect Derwen.