Pam Cymrugyfan?
Mae Cymru yn profi argyfwng presenoldeb yn yr eglwys. Ar hyn o bryd mae llawer o drefi a channoedd o bentrefi heb yr un eglwys efengylaidd. Yn ogystal, mae yna lawer o bobl a chymunedau Cymraeg eu hiaith heb fynediad i’r eglwys nac i neges Iesu Grist yn eu hiaith eu hunain.
Po fwyaf o eglwysi sydd yng Nghymru a pha mor gryf bynnag y bônt, mwyaf yw’r cyfle sydd gan unigolion i glywed am Iesu Grist, dod i ffydd ynddo a darganfod gras achubol Duw. Cred Cymrugyfan fod plannu a chryfhau’r eglwysi Cymraeg a Saesneg eu hiaith ill dau ar hyd a lled Cymru yn hanfodol bwysig.
Sefydlwyd Cymrugyfan yn 2005 gan David Ollerton ac mae’n Elusen Gofrestredig.