Cynllun Derwen
Rhaglen hyfforddi yw Cynllun Derwen sy’n bodoli i ddatblygu cenhedlaeth o arweinwyr arloesol a fydd yn mynd â’r efengyl at bobl ac i grwpiau a llefydd yng Nghymru lle nad oes tystiolaeth fyw o’r efengyl. Bydd yn cataleiddio mynegiant newydd o Gristnogaeth yng Nghymru. Nid yw’n rhaglen academaidd, yn hytrach ceisia ddatblygu cymeriad a sgiliau’r arweinydd. Bydd y cynllun yn arfogi'r cyfranogwyr â phrofiad y gall rhaglenni eraill, interniaethau, mudiadau a hyfforddi enwadol adeiladu arno.
Mae’r cynllun ar gyfer unrhyw un sydd â chalon dros rannu’r newyddion da am Iesu mewn dull newydd ac arloesol yng Nghymru. Gall fod yn gam cyntaf tuag at genhadaeth arloesol i rai, ac i eraill yn gynllun fydd yn cefnogi eu datblygiad fel arweinwyr ac arloeswyr newydd.
Bydd arloeswr dan hyfforddiant yn rhan o’r cynllun am ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwn bydd cyfleon i ddysgu, cymdeithasu, gweddïo a thwf personol mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhanbarthol, ochr yn ochr â pherthynas â mentor lleol a phrofiadau ar leoliad. Gallwch lawrlwytho pamffled yma.
Croeso i Gynllun Derwen
Bodola’r rhaglen hyfforddi hon i ddatblygu cenhedlaeth o arweinwyr arloesol a fydd yn mynd â’r efengyl at bobl, grwpiau ac ardaloedd yng Nghymru lle nad oes tystiolaeth fyw i’r efengyl. Bydd yn cataleiddio mynegiant newydd o Gristnogaeth yng Nghymru.
Nid yw’n rhaglen academaidd, yn hytrach ceisia ddatblygu cymeriad a sgiliau’r arweinydd. Bydd y cynllun yn arfogi'r cyfranogwyr â phrofiad y gall rhaglenni eraill, interniaethau, mudiadau a hyfforddi enwadol adeiladu arno.
Mae Cynllun Derwen yn gynllun Cymrugyfan sydd wedi tyfu o berthynas organig â Souled Out Cymru. Mae hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag Undeb Bedyddwyr Cymru.
Rydym yn awyddus i weithio mewn partneriaeth gydag amryw o fudiadau, enwadau ac arweinwyr yng Nghymru sy’n rhannu’n calon. Os hoffech gefnogi Cynllun Derwen drwy fod yn fentor lleol, trwy gynnig profiad lleoliad neu gefnogaeth ariannol, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy lenwi’r ffurflen isod.
“Meddyliwch... Petaem yn cymryd o ddifri yr angen am eglwysi sy’n gyfoes, yn berthnasol, sy’n edrych allan, gyda chymuned Gristnogol ym mhob cymuned, pob grŵp diwylliannol ac ieithyddol...
“Rhaid i bobl weld mynegiant o eglwys y medrant uniaethu â hi, a theimlo’n ‘gartrefol’ ynddi...
“Beth os na wnawn...?” David Ollerton, Cenhadaeth Newydd i Gymru
Ymuno Cynllun Derwen
Mae croeso i chi gysylltu â ni i gael sgwrs anffurfiol er mwyn trafod y rhaglen a gweld a yw’n addas i chi.
Mae’r cynllun ar gyfer unrhyw un sydd â chalon dros rannu’r newyddion da am Iesu mewn dull newydd ac arloesol yng Nghymru. Gall fod yn gam cyntaf tuag at genhadaeth arloesol i rai, ac i eraill yn gynllun fydd yn cefnogi eu datblygiad fel arweinwyr ac arloeswyr newydd.
Y rhinweddau sylfaenol, angenrheidiol yw bod gennych ffydd yn yr Arglwydd Iesu, fod eich calon yn bendant ar ei ddilyn ef ynghyd â chalon i drawsffurfio Cymru â’r efengyl. Yn ogystal, bydd angen i’r holl arloeswyr gael eu hanfon gan eu harweinydd neu eglwys.
Gallwch weld ein Prosbectws cyfredol yma.
Cysylltu â Derwen
I wybod mwy am gefnogi, cofrestru ym Medi neu ond i gael mwy o wybodaeth am y cynllun, llenwch y ffurflen hon ac fe ddown yn ôl atoch yn fuan.