Diwrnod i Gymru
Hoffem annog capeli i weddïo dros Gymru drwy gydol y flwyddyn, gan ganolbwyntio’n arbennig ar hyn o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi.
Awgrymiadau ar gyfer eich ‘Diwrnod i Gymru’...
Awgrymwn eich bod yn rhoi 5-10 munud yn ystod eich cyfarfod Sul i gyflwyno:
Ymwybyddiaeth o’r angen
Eglurwch yr heriau sy’n ein hwynebu mewn ardaloedd heb eglwysi byw. Eglurwch yr anghenion penodol mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith, lle mae traddodiad a ffurfioldeb wedi cael gafael dynn, mannau lle mae cynulleidfaoedd yn aml yn oedrannus a’r niferoedd yn dirywio’n gyflym.
Amser o weddi gyda’ch gilydd
Gweddïwch dros Gymru yn gyffredinol, anogwch bobl i weddïo dros un neu ddwy sefyllfa benodol sy’n berthnasol i’ch eglwys a thros unrhyw fenter yr ydych eisoes yn gysylltiedig â hi. Gweddïwch hefyd dros y tair sefyllfa sydd yn cael eu hamlinellu yn y fidio yma, a dros y gwaith o blannu eglwysi newydd.