Cefnogwch ni
I gwblhau’r gwaith y credwn fod Duw yn ei roi i ni wneud, mae angen eich cefnogaeth arnom. Os gwelwch yn dda:
· Gweddïwch drosom ac yn enwedig y rhai ar Gynllun Derwen a’u mentoriaid
· Dywedwch wrth arweinydd eich eglwys ac eraill amdanom
· Cofrestrwch i gael ambell ebost yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am ein gwaith.
Rydym yn hynod falch o dderbyn rhoddion i waith Cymrugyfan, gan gynnwys Cynllun Derwen, oddi wrth unigolion lle nad yw hyn yn tynnu oddi ar eu cefnogaeth i'w heglwys leol.
Gallwch wneud cyfraniad ar-lein trwy wefan Stewardship.
Fel arall, gallwch anfon siec (yn daladwy i Cymrugyfan) i’r cyfeiriad ar ffurflen Rhodd Cymorth yma.
Diolch yn fawr.