Gweddi
Ymunwch â ni mewn gweddi dros Gymru, y bydd pobl yn dod yn Gristnogion ac yn rhan o eglwys effeithiol, fywiog. Gweddïwch am hyn ar draws Cymru lle ceir gwir angen ysbrydol. Mae’r map yn dangos nifer o lefydd sy’n arbennig ar ein calonnau.
Gweddïwch y bydd eglwysi newydd yn cael eu plannu mewn ardaloedd lle bo’r angen neu y byddai eglwysi presennol yn cael eu hatgyfnerthu i ateb yr angen hwnnw.
Gweddïwch y bydd eglwysi cryfach yng Nghymru yn ymestyn allan i annog ac atgyfnerthu rhai mewn ardaloedd eraill.
Gweddïwch dros yr arweinwyr arloesi sy’n cael eu hyfforddi a’u mentora drwy Broject Derwen. Gweddïwch dros y rhai sydd eisoes yn gweithio i ddod â’r efengyl i bobl Cymru.
Gweddïwch dros holl arweinwyr a gweithwyr Cristnogol Cymru:
Yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy'r cariad sy'n ffrwyth yr Ysbryd: ymunwch â mi yn fy ymdrech, a gweddïo ar Dduw trosof. (Rhufeiniaid 15:30 BCND)
a gweddïwch drosof finnau y bydd i Dduw roi i mi ymadrodd, ac agor fy ngenau, i hysbysu'n eofn ddirgelwch yr Efengyl. (Effesiaid 6:19 BCND)
Gweddïwch yr un pryd drosom ninnau hefyd, ar i Dduw agor inni ddrws i'r gair, inni gael traethu dirgelwch Crist...... (Colosiaid 4:3 BCND)
… gweddïwch drosom ni, ar i air yr Arglwydd fynd rhagddo a chael ei ogoneddu… (2 Thesaloniaid 3:1 BCND).
Mae’n galondid mawr gwybod bod pobl yn gweddïo dros Gymru. Os gwelwch yn dda, cliciwch er mwyn i ni wybod eich bod wedi gweddïo.