Sut y Dechreuodd Popeth
Sefydliad er plannu a thrawsnewid eglwysi yw Cymrugyfan, a ddechreuodd yn 2005. Roedd David Ollerton, a oedd wedi arwain a phlannu eglwysi, wedi bod yn gweithio gyda Menter Eglwysi i helpu trawsnewid eglwysi Cymraeg eu hiaith i ddilyn model â dyfodol dichonadwy. Ddiwedd 2004 fe gafodd flwyddyn sabothol a theithiodd ledled Cymru gan edrych ar eglwysi newydd a oedd wedi llwyddo, wedi cael trafferth neu wedi methu. Wedi cwblhau’r daith, ysgrifennodd adroddiad o’r enw ‘Waleswide,’ a dosbarthwyd dros 500 gopi ohono i bawb â diddordeb.
Mewn ymateb i hyn, fe awgrymodd Stuart Olyott, a oedd bryd hynny yn Gyfarwyddwr Bugeiliol Mudiad Efengylaidd Cymru, ddod ag arweinwyr ynghyd i drafod y materion. Cafodd hyn ei gefnogi’n frwd gan Elfed Godding, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cynghrair Efengylaidd Cymru. Fe sicrhaodd ef fod holl staff ac adnoddau CE Cymru ar gael er mwyn trefnu Ymgynghoriad Cyntaf Cymrugyfan yn y Drenewydd yn Hydref 2005.
Yn yr ymgynghoriad hwn cytunwyd y dylid sefydlu rhwydwaith o arweinwyr efengylaidd ar draws y sbectrwm ac o bob rhanbarth yng Nghymru er mwyn cynllunio, gweddïo a gweithio i godi ymwybyddiaeth o’r angen am blannu a chryfhau eglwysi yng Nghymru. Waleswide/Cymrugyfan yw’r rhwydwaith hwn ac fe’i cofrestrwyd yn elusen sy’n dal ar waith heddiw.
Aeth David Ollerton at ei Arglwydd ar y 18fed o Fawrth 2017.